0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Arolwg profiad cleifion canser Cymru (2017)

Pan fyddwch chi’n sâl, mae’r pethau bach mae pobl sy’n eich trin yn eu gwneud yn gallu golygu llawer iawn.

O sut rydych chi’n clywed bod gennych chi salwch i gael gwybod beth i’w ddisgwyl, mae’r pethau hyn i gyd yn dylanwadu ar sut rydym ni’n teimlo am ein gofal.

O’u gwneud yn dda, maen nhw’n gallu gwneud i ni deimlo ein bod ni’n cael ein gwerthfawrogi, ein clywed a’n cefnogi. Pan nad ydyn nhw’n cael eu gwneud cystal, maen nhw’n gallu gwneud i ni deimlo’n ofidus, ein bod ni’n cael ein hanwybyddu ac yn ysgwyd ein hymddiriedaeth.

Y llynedd, am yr ail dro, cynhaliodd Macmillan Cymru Arolwg Profiad Cleifion Canser Cymru gyda Llywodraeth Cymru i’n helpu ni i ddeall sut mae pobl sy’n cael eu trin am ganser yn teimlo am eu gofal.

Cafodd yr arolwg ei bostio at 11,000 o bobl a gafodd eu trin am ganser yng Nghymru yn 2015 i ofyn am eu barn ar bob agwedd ar eu gofal canser.

Rwyf wrth fy modd i 6,714 o bobl (65%) roi eu hamser i ddweud wrthyn ni am eu gofal a’n bod ni’n lansio’r canlyniadau heddiw.

Beth ddywedodd pobl wrthym ni?

At ei gilydd, teimlai pobl yn bositif am eu gofal canser gyda 93 y cant yn graddio eu gofal o leiaf 7 allan o 10 (ar raddfa o 0-10 lle roedd 10 = da iawn), sy’n newyddion ardderchog.

Dwedodd 97 y cant o bobl fod eu holl opsiynau triniaeth wedi eu hesbonio iddyn nhw, sy’n bwysig mewn gofal canser lle mae’n bosibl y bydd amrywiol driniaethau i ddewis o’u plith.

Dwedon nhw wrthym ni fod cael nyrs glinigol arbenigol wedi cael effaith hynod o gadarnhaol ar eu profiad ac roedden nhw’n fwy positif ar 73 allan o 74 o gwestiynau’r arolwg.

Ond dywedodd pobl wrthym ni fod yna feysydd i’w gwella hefyd.

Mae cynllun canser Cymru yn dweud y dylai anghenion pawb gael eu hasesu a dylen nhw gael cynnig cynllun gofal ysgrifenedig i’w helpu i ymdrin â phryderon ehangach fel cyllid, cefnogaeth emosiynol a grwpiau cymorth.

Ond dwedodd llai nag un o bob pump (18%) o bobl yn yr arolwg eu bod wedi cael cynllun gofal ysgrifenedig.

Mae’r cynllun canser yn dweud hefyd y dylai pawb sydd wedi cael diagnosis o ganser gael gwybodaeth am sut i gyrchu cyngor a chefnogaeth ariannol – ond llai na hanner y bobl (48%) a gafodd gynnig y gefnogaeth hon.

Mae’r arolwg yn dangos rhai enghreifftiau gwych o ofal canser sy’n cael ei ddarparu’n dosturiol mewn modd sy’n bodloni anghenion pobl â chanser.

Ond mae’n dangos hefyd bod gwaith i’w wneud mewn meysydd allweddol gan gynnwys yr wybodaeth sy’n cael ei rhoi i bobl, eu cynlluniau gofal a chael eu cymryd o ddifrif gan eu meddyg teulu pan fyddan nhw’n amau y gallai fod canser ganddyn nhw.

Beth fydd Macmillan Cymru yn gwneud gyda’r canlyniadau?

Byddwn ni’n edrych ar y canlyniadau i amlygu meysydd sy’n gweithio’n dda y gallai pobl eraill ddysgu ohonyn nhw ac i ymgyrchu am welliannau lle mae eu hangen.

Byddwn ni’n gweithio gyda’r byrddau iechyd i’w cefnogi i ddatblygu gwasanaethau newydd a dulliau o wella eu gofal canser.

Byddwn ni’n darparu cyfleoedd dysgu a hyfforddi i weithwyr proffesiynol Macmillan a staff sy’n gweithio gyda phobl â chanser.

Hoffwn diolch i bawb a gwblhaodd yr arolwg – bydd eich profiadau chi’n ein helpu i ddeall beth sy’n gweithio’n dda mewn gofal canser yng Nghymru a ble mae angen i bethau wella.