0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Arolwg profiad cleifion canser Cymru (2016)

O ddydd Iau 28 Gorffennaf Gorffennaf, bydd ail arolwg Profiad Cleifion Canser Cymru’n glanio ar garreg drws rhai pobl. Yma, mae Sue Williams, Rheolwr Rhaglen Macmillan Cymru’n esbonio pam, os byddwch chi’n derbyn arolwg, y dylech ei gwblhau a’i ddychwelyd.  

Rwy’n gysylltiedig â dylunio arolygon i gleifion, myfyrwyr meddygaeth a myfyrwyr nyrsio ers dros 20 mlynedd ac, ydw, rwy’n un o’r bobl hynny sydd, bron bob amser, yn ateb cwestiynau arolygon am fy mhrofiadau.

Rwy’n ofalus ynghylch datgelu fy ngwybodaeth bersonol ond rwy’n teimlo’n ddigon cryf mai arolwg yw fy nghyfle i i roi adborth i’r busnes / trefnwyr am fy mhrofiad. Os nad yw neb yn ymateb, sut gallan nhw wella?

Yn amlach na pheidio rwy’n canmol ac yn rhoi adborth am yr elfennau cadarnhaol hefyd. I fi, mae’r un mor bwysig i sefydliad glywed am y pethau da ynghyd ag unrhyw sylwadau negyddol.

A wyddech chi fod arolwg Profiad Cleifion Canser Cymru wedi’i gynnal yn 2013?

Menter ar y cyd oedd yr arolwg Cymru gyfan hwn rhwng Llywodraeth Cymru a Macmillan, ac yn rhyfeddol, rhoddodd dros 7,300 o bobl a gafodd ddiagnosis canser (cyfradd ymateb o 69%) o’u hamser gwerthfawr i gwblhau’r arolwg hwn.

Holodd yr arolwg am brofiad pobl o gael eu diagnosis canser, eu triniaeth a’u gofal yng Nghymru. Beth dywedon nhw wrthon ni? Dywedodd 89% o bobl fod eu gofal yn gyffredinol naill ai’n rhagorol neu’n dda iawn ac, er bod hynny o gysur mawr, nid dyna oedd y darlun cyfan.

Rydyn ni’n gwybod bod staff y GIG yn gweithio’n galed i ddarparu gofal trugarog o ansawdd uchel ond mae gofal canser yn gymhleth a gall fod yn wasgarog.

Dywedodd pobl wrthyn ni fod amrywiaeth yn eu profiadau a’u gofal rhwng safleoedd ysbytai a rhai mathau o ganser. Clywon ni hefyd:

  • nad oedd gan bawb Nyrs Glinigol Arbenigol yn weithiwr allweddol iddynt;
  • nad pawb oedd wedi cael trafodaeth am eu hanghenion na chynllun gofal ysgrifenedig;
  • nad pawb oedd wedi derbyn gwybodaeth o ansawdd uchel na’u cyfeirio’n amserol at gyngor am fudd-daliadau lles;
  • nad pawb oedd wedi cael gwybod pa gymorth arall oedd ar gael iddyn nhw a’u hanwyliaid.

Felly er bod 89% o bobl wedi barnu bod eu gofal o safon uchel, roedd dal lle i wella.

Wrth gwrs, deilliannau da i’r driniaeth yw’r nod pennaf, ond mae’r profiad o gael y driniaeth yr un mor bwysig i bobl â’i llwyddiant.

Gall profiad da helpu pobl â chanser i deimlo’u bod cael eu cefnogi a’u parchu. Mae tystiolaeth yn dangos bod profiad da i’r claf yn gysylltiedig â deilliannau cadarnhaol eraill – gan gynnwys cleifion yn dilyn eu cynlluniau triniaeth.

Beth sydd wedi digwydd ers i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi?

Gwrandawodd y GIG a defnyddiodd y canlyniadau i adolygu eu gwasanaethau canser yn lleol.

Defnyddiodd Macmillan y canlyniadau i:-

  • ariannu a chynorthwyo’r gwaith o benodi Nyrsys Clinigol Arbenigol, prif nyrsys canser a rheolwyr prosiect gofal sy’n canolbwyntio ar y person, ar hyd a lled Cymru;
  • datblygu gwasanaethau canser gyda byrddau iechyd e.e. gwasanaethau oncoleg acíwt i ddarparu cymorth gwell i bobl â salwch acíwt yn ystod eu triniaeth;
  • cyllido rhaglen gofal sylfaenol sy’n cefnogi meddygon teulu i ddiagnosio canser yn gynt a darparu cymorth gwell i bobl er mwyn iddynt fyw yn dda gyda’u canser a thu hwnt;
  • parhau i ymgyrchu am well gofal canser yng Nghymru.

Beth nesaf?

Mae’n hanfodol ein bod yn dal ati i geisio deall profiadau pobl o ofal canser, yr hyn sy’n gweithio a pha feysydd y mae angen eu gwella. Gyda’r wybodaeth hon ar flaen ein bysedd, byddwn ni’n deall anghenion pobl â chanser yn well.

O ddydd Iau 28 Gorffennaf, bydd ail Arolwg Profiad Cleifion Canser yn glanio ar garreg drws pobl.

Unwaith eto, partneriaeth yw hon rhwng Llywodraeth Cymru a Macmillan. Mae’n gyfle i bobl gymwys a gafodd ddiagnosis canser yn ystod 2015 ddweud wrthyn ni am y gofal a gawson nhw.

Am y tro cyntaf, bydd pobl hefyd yn gallu cwblhau’r arolwg ar-lein gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar gopi caled yr arolwg.

Beth gallwch chi ei wneud i helpu?

Bydd yr ail arolwg hwn yn darparu mewnwelediad ond, fel bob amser, mae angen cyfraddau cwblhau ymatebion da arnon ni fel y gall pawb gael sicrwydd bod y safbwyntiau’n cynrychioli pobl â chanser yng Nghymru.

Os byddwch chi’n derbyn yr arolwg dros yr wythnosau nesaf, gofynnir i chi ei gwblhau a’i ddychwelyd.

Mae eich safbwyntiau’n hanfodol bwysig a gallan nhw wir wneud gwahaniaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae rhif llinell gymorth ar yr arolwg.

Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol iechyd ac mae un o’ch cleifion yn gofyn i chi am yr arolwg, bydden ni’n gwerthfawrogi eich cymorth drwy annog cleifion i gwblhau a dychwelyd eu harolwg, cyn gynted â phosibl.

Rwy’n gwybod ei bod yn hawdd diystyru cwblhau unrhyw arolwg ond mae’r wybodaeth a gawn ni o’r arolwg canser hwn yn gallu cael ei throi’n gamau gweithredu i wella gwasanaethau canser. Caiff ei defnyddio i ganmol yr hyn sy’n gweithio’n dda hefyd.

Mae’n gyfle i ddweud wrth Lywodraeth Cymru, Macmillan a’r GIG sut olwg sydd ar ofal canser go iawn yng Nghymru.